Treth ar eich cyfraniadau pensiwn preifat
Rhyddhad treth
Gallwch gael rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn preifat gwerth hyd at 100% o’ch enillion blynyddol.
Byddwch naill ai’n cael y rhyddhad treth yn awtomatig neu bydd angen i chi hawlio’r rhyddhad eich hun. Mae’n dibynnu ar y math o gynllun pensiwn rydych yn rhan ohono, a’r gyfradd Treth Incwm rydych yn ei thalu.
Mae dau fath o gynllun pensiwn lle byddwch yn cael rhyddhad yn awtomatig. Naill ai:
- bod eich cyflogwr yn tynnu cyfraniadau pensiwn gweithle o’ch cyflog cyn didynnu Treth Incwm
- bod eich darparwr pensiwn yn hawlio rhyddhad treth gan y llywodraeth ar y gyfradd sylfaenol o 20% a’i fod yn ychwanegu hwn at eich cronfa bensiwn (‘rhyddhad wrth y ffynhonnell’)
Os yw’ch cyfradd Treth Incwm yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg) yn 19%, bydd eich darparwr pensiwn yn hawlio gostyngiad treth i chi ar gyfradd o 20%. Nid oes angen i chi dalu’r gwahaniaeth.
Mae rhyddhad treth yn y DU hefyd ar gael ar gyfraniadau a wnaed at fathau penodol o gynlluniau pensiwn tramor (yn agor tudalen Saesneg).
Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr nad ydych yn cael rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn sydd fwy na 100% o’ch enillion blynyddol. Gall Cyllid a Thollau EF (CThEF) ofyn i chi dalu unrhyw beth dros y terfyn hwn yn ôl.
Rhyddhad wrth y ffynhonnell
Cewch ryddhad wrth y ffynhonnell mewn pob un pensiwn personol a phensiwn rhanddeiliaid, yn ogystal â rhai pensiynau gweithle.
I gael rhyddhad wrth y ffynhonnell
Cyn talu i mewn i gynllun, mae angen i chi gytuno i amodau penodol ynghylch eich cyfraniadau (‘gwneud datganiad’). Bydd eich darparwr pensiwn yn rhoi gwybod i chi beth yw’r rhain.
Bydd hefyd angen i chi roi’r canlynol i’ch darparwr pensiwn:
- eich enw llawn a’ch cyfeiriad
- eich dyddiad geni
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- eich statws cyflogaeth - neu roi gwybod iddo os ydych wedi ymddeol, yn fyfyriwr llawn amser, yn ofalwr neu o dan 16 oed
Efallai y bydd eich cyflogwr yn gwneud hyn ar eich rhan os ydych wedi’ch cofrestru’n awtomatig i’w gynllun pensiwn.
Bydd eich darparwr pensiwn yn rhoi gwybod i chi os dyma’r achos, a gofyn i chi gadarnhau bod eich manylion yn gywir. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen 30 diwrnod.
Hawlio rhyddhad treth eich hun
Mewn rhai achosion, bydd angen i chi hawlio rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn eich hun. Bydd angen i chi hawlio:
- os ydych yn talu Treth Incwm ar gyfradd sydd uwch nag 20%, ac mae’ch darparwr pensiwn yn hawlio’r 20% cyntaf ar eich rhan (rhyddhad wrth y ffynhonnell)
- os nad yw’ch cynllun pensiwn wedi’i drefnu ar gyfer rhyddhad treth awtomatig
- os yw rhywun arall yn talu i mewn i’ch pensiwn
Os ydych yn talu swm sy’n fwy na £10,000 i mewn, dysgwch sut i hawlio gostyngiad treth.
Os ydych yn talu Treth Incwm ar gyfradd uwch nag 20% (Cymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon)
Gallwch hawlio rhyddhad treth ychwanegol ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad am arian y byddwch yn ei roi yn eich pensiwn preifat. Gall y rhyddhad hwn fod yn un o’r canlynol:
- 20% hyd at swm unrhyw incwm rydych wedi talu treth arno o 40%
- 25% hyd at swm unrhyw incwm rydych wedi talu treth arno o 45%
Os nad ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad, dysgwch sut i hawlio gostyngiad treth.
Enghraifft
Rydych yn ennill £60,000 yn ystod blwyddyn dreth 2024 i 2025 ac yn talu treth o 40% ar £10,000. Rydych yn rhoi £15,000 mewn pensiwn preifat. Rydych yn cael rhyddhad treth wrth y ffynhonnell yn awtomatig ar y £15,000 cyfan.
Gallwch hawlio rhyddhad treth ychwanegol o 20% ar £10,000 (yr un swm a wnaethoch dalu treth ar y gyfradd uwch arno) drwy eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Ni chewch ryddhad ychwanegol ar y £5,000 sy’n weddill yr ydych wedi rhoi yn eich pensiwn.
Os ydych yn talu Treth Incwm sydd uwch nag 20% (Yr Alban)
Gallwch hawlio rhyddhad treth ychwanegol ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad am arian y byddwch yn ei roi yn eich pensiwn preifat. Gall y rhyddhad hwn fod yn un o’r canlynol:
- 1% hyd at swm unrhyw incwm rydych wedi talu treth o 21% arno
- 22% hyd at swm unrhyw incwm rydych wedi talu treth o 42% arno
- 25% hyd at swm unrhyw incwm rydych wedi talu treth o 45% arno
- 28% hyd at swm unrhyw incwm rydych wedi talu treth o 48% arno
Os nad ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad, dysgwch sut i hawlio gostyngiad treth.
Os nad yw’ch cynllun pensiwn wedi’i drefnu i gael rhyddhad treth awtomatig
Hawliwch ryddhad treth yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad os nad yw’ch cynllun pensiwn wedi’i drefnu i gael rhyddhad treth awtomatig.
Os nad ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad, dysgwch sut i hawlio gostyngiad treth.
Ni allwch hawlio rhyddhad treth os nad yw’ch cynllun pensiwn wedi’i gofrestru gyda CThEF.
Os yw rhywun arall yn talu i mewn i’ch pensiwn
Pan fydd rhywun arall (er enghraifft, eich partner) yn talu i mewn i’ch pensiwn, cewch ryddhad treth ar 20% yn awtomatig os yw’ch darparwr pensiwn yn hawlio’r rhyddhad ar eich rhan (‘rhyddhad wrth y ffynhonnell’).
Os ydych mewn pensiwn gweithle, dysgwch sut i hawlio rhyddhad treth ar y cyfraniadau hynny.
Cyflwyno neu gynyddu hawliad sydd dros £10,000
Cael gwybod sut i hawlio rhyddhad treth os ydych yn gwneud y canlynol:
- gwneud hawliad newydd ar gyfer cyfraniadau pensiwn dros £10,000
- cynyddu’ch hawliad presennol gan fwy na 10% (os yw’r hawliad presennol eisoes dros £10,000)
Os ydych yn cynyddu’ch hawliad presennol o lai na 10%, gallwch ffonio CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Os nad ydych yn talu Treth Incwm
Cewch ryddhad treth ar 20% yn awtomatig o hyd ar y £2,880 cyntaf y byddwch yn ei dalu i mewn i bensiwn bob blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill) os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol i chi:
- nid ydych yn talu Treth Incwm oherwydd eich bod ar incwm isel
- mae’ch darparwr pensiwn yn hawlio rhyddhad treth ar eich rhan ar gyfradd o 20% (rhyddhad wrth y ffynhonnell)
Polisïau yswiriant bywyd
Ni allwch gael rhyddhad treth os ydych yn defnyddio’ch cyfraniadau pensiwn i dalu am bolisi aswiriant cyfnod personol, oni bai ei fod yn bolisi wedi’i ddiogelu.
Aswiriant cyfnod personol yw polisi yswiriant bywyd sydd naill ai:
- yn dod i ben pan fydd y person cyntaf i gael ei yswirio’n marw
- yn yswirio pobl sydd i gyd o’r un teulu