Canllawiau

Rhyddhadau treth y diwydiant creadigol ar gyfer Treth Gorfforaeth

Gwiriwch a yw’ch cwmni, sydd yn y diwydiant creadigol, yn gymwys fel y cwmni cynhyrchu ar gyfer credydau gwariant neu ryddhadau Treth Gorfforaeth.

Mae 8 rhyddhad Treth Gorfforaeth a 2 fath o gredydau gwariant Treth Gorfforaeth sydd ar gael i gwmnïau yn y diwydiannau creadigol. 

O 1 Ebrill 2024 ymlaen, mae’n rhaid i bob hawliad gynnwys ffurflen gwybodaeth ychwanegol (yn agor tudalen Saesneg). Bydd hyn yn eich galluogi chi i roi’r dystiolaeth sydd ei hangen er mwyn ategu’ch hawliad.

Rhyddhadau treth

Mae’r rhyddhadau’n galluogi cwmnïau sy’n gymwys i wneud y canlynol:

  • cynyddu swm eu gwariant caniataol

  • gostwng swm y Dreth Gorfforaeth y mae angen i’r cwmni ei thalu

Os bydd eich cwmni’n gwneud colled, efallai y byddwch chi’n gallu ildio’r golled a throsi rhan ohoni, neu’r cyfan, yn gredyd treth taladwy. 

Credydau gwariant

Mae’r credydau gwariant yn rhoi credyd trethadwy i gwmnïau sy’n gymwys, a hynny ar sail swm eich gwariant caniataol. 

Defnyddir hyn er mwyn talu’ch rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth, a gellir hefyd ei osod yn erbyn rhwymedigaethau treth eraill.

Mae’ch cwmni’n cael unrhyw swm sy’n weddill fel credyd taladwy.

Pwy all hawlio

Mae’ch cwmni’n gallu hawlio credydau gwariant neu ryddhadau treth y diwydiant creadigol os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’n agored i Dreth Gorfforaeth

  • mae’n ymwneud yn uniongyrchol â chynhyrchu a datblygu:

    • ffilmiau
    • teledu o safon uchel
    • teledu i blant
    • teledu wedi’i animeiddio
    • gemau fideo
    • cynyrchiadau theatraidd
    • cyngherddau cerddorfaol
    • arddangosfeydd orielau neu amgueddfeydd
  • mae’n chwarae rhan weithredol yn y gwaith penderfynu

  • mae’n gweithio’n uniongyrchol i drafod, contractio a thalu am hawliau, nwyddau a gwasanaethau

Mae’n rhaid i’ch cwmni fod yn gyfrifol am y cynhyrchiad drwy gydol ei ddatblygiad, o ddechrau’r cam cyn-gynhyrchu hyd nes i’r ffilm, rhaglen neu gêm gael ei chyflawni.

Ar gyfer cynyrchiadau theatraidd, cyngherddau cerddorfaol, neu arddangosfeydd, mae’n rhaid i’r cwmni fod yn gyfrifol am gynhyrchu, cynnal a chau’r cynhyrchiad.

Gwirio a yw’ch cwmni’n gymwys fel y cwmni cynhyrchu

Gwirio nawr

Prawf o ran diwylliant 

Er mwyn bod yn gymwys i gael rhyddhadau treth y diwydiant creadigol, mae’n rhaid i bob ffilm, rhaglen deledu neu gêm fideo gael ei hardystio yn un Brydeinig. Mae’n rhaid iddynt basio prawf o ran diwylliant, neu fod yn gymwys drwy gytuniad cyd-gynhyrchu a gytunwyd yn rhyngwladol. 

Sefydliad Ffilm Prydain (BFI) sy’n rheoli’r broses o bennu cymhwyster a dyrannu tystysgrifau ar ran yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Bydd Sefydliad Ffilm Prydain yn dyrannu:

  • tystysgrif dros dro ar gyfer gwaith sydd ar y gweill

  • tystysgrif derfynol ar gyfer cynhyrchiad sydd wedi’i gyflawni

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch y broses ardystio ar wefan Sefydliad Ffilm Prydain (yn agor tudalen Saesneg).

Credydau gwariant a rhyddhadau treth y diwydiant creadigol

Os yw’ch cwmni’n gymwys fel y cwmni cynhyrchu a’i fod yn pasio’r prawf o ran diwylliant (os yw’n berthnasol), efallai y byddwch chi’n gallu hawlio’r credydau gwariant neu ryddhadau canlynol ar eich Ffurflen Dreth Cwmni:

Rhagor o wybodaeth

Mae Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF yn delio â hawliadau am gredydau a rhyddhadau treth y diwydiant creadigol drwy gyfrwng y Gymraeg. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch hawlio’r rhyddhadau, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Ionawr 2007
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Mawrth 2025 show all updates
  1. The need to include a CT600P creative industries supplementary page with your Company Tax Return from April 2025 has been removed.

  2. Added Welsh translation.

  3. Check if your company qualifies as the production company section added. This includes a tool to check if the company qualifies. Added in information about CT600P supplementary page.

  4. We have updated the page to include guidance on 2 new Corporation Tax expenditure credits: Audio-Visual Expenditure Credit and Video Games Expenditure Credit.

  5. This guidance has been updated to include a link to the Museum and Galleries Exhibition Tax Relief manual.

  6. A new section covering Museums and Galleries Exhibition Tax Relief has been added.

  7. Links to Orchestra Tax Relief Manual and Video Games Development Company Manual have been added.

  8. Guidance updated to advise companies if they receive more than €500,000 a year in state aid, certain details will be published on the European Commission website. Information about Orchestra Tax Relief added.

  9. Details of Childrens Television Tax Relief added to the page.

  10. Link to the Theatre Tax Relief manual has been added.

  11. First published.

Argraffu'r dudalen hon