Rhoi eich eiddo ar osod
Cynyddu Rhent
Dylai’r cytundeb tenantiaeth (yn agor tudalen Saesneg) gynnwys manylion ynghylch pryd y byddwch yn adolygu’r rhent a sut y byddwch yn gwneud hynny.
Mae rheolau arbennig ar gyfer cynyddu rhenti tenantiaeth rheoleiddiedig.
Pryd y gallwch gynyddu rhent
Ar gyfer tenantiaeth gyfnodol (sy’n seiliedig ar gyfnodau o wythnos i wythnos neu o fis i fis) dim ond unwaith y flwyddyn y gallwch gynyddu’r rhent.
Ar gyfer tenantiaeth am gyfnod penodol (sy’n rhedeg am gyfnod penodol), gallwch gynyddu’r rhent dim ond os yw eich cytundeb tenantiaeth yn caniatáu i chi wneud hynny. Fel arall, dim ond pan ddaw’r cyfnod penodol i ben y gallwch godi’r rhent.
Sut y gallwch chi gynyddu’r rhent
Os yw cytundeb tenantiaeth am gyfnod penodol yn nodi sut y gellir cynyddu’r rhent, mae’n rhaid i chi gadw at hyn.
Ar gyfer tenantiaeth gyfnodol, gallwch wneud y canlynol:
- cytuno ar gynnydd mewn rhent gyda’ch tenantiaid a llunio cofnod ysgrifenedig o’r cytundeb sydd wedi’i lofnodi gan y ddau ohonoch
- llenwi Ffurflen 4: Hysbysiad gan y landlord yn cynnig rhent newydd (yn agor tudalen Saesneg), gan roi o leiaf mis o rybudd i’ch tenant
Mae rheolau gwahanol ar gyfer cynyddu rhent yn yr Alban a chynyddu rhent yng Ngogledd Iwerddon.
Mae’n rhaid i’r cynnydd mewn rhent fod yn deg ac yn realistig – hynny yw, yn unol â rhenti rhesymol ar y farchnad agored.
Os nad yw’ch tenantiaid yn cytuno
Os yw eich tenantiaid o’r farn bod y cynnydd mewn rhent yn annheg, gallant ofyn i Haen Gyntaf y Tribiwnlys Eiddo (yn agor tudalen Saesneg) benderfynu ar y swm cywir.