Gwneud atgyweiriadau

Mae’n rhaid i chi gadw eich eiddo mewn cyflwr da, ac mae’n rhaid i unrhyw systemau nwy neu systemau trydanol fodloni safonau diogelwch penodol.

Pryd y gallwch fynd i mewn i’r eiddo

Mae gennych hawl gyfreithiol i fynd i mewn i’ch eiddo i’w archwilio neu i wneud gwaith atgyweirio. Mae’n rhaid i chi roi o leiaf 24 awr o rybudd i’ch tenantiaid, er, mae’n bosibl y gellir cael mynediad ar unwaith mewn argyfwng. Mae gan eich tenantiaid yr hawl i aros yn yr eiddo yn ystod y gwaith atgyweirio.

Fel arfer, rydych yn gyfrifol am atgyweiriadau i’r canlynol:

  • strwythur eich eiddo
  • basnau, sinciau, bathiau a gosodiadau glanweithiol eraill
  • systemau gwresogi a systemau dŵr poeth
  • unrhyw beth rydych chi’n ei ddifrodi’n ddamweiniol drwy geisio gwneud gwaith atgyweirio

Os yw eich eiddo wedi’i ddifrodi’n ddifrifol gan dân, llifogydd neu ddigwyddiad tebyg arall, nid oes rhaid i chi ei ailadeiladu na’i adnewyddu. Fodd bynnag, os gwnewch hynny, ni allwch godi tâl ar eich tenantiaid am unrhyw waith atgyweirio a wnaed.

Ardaloedd cyffredin

Os ydych chi’n berchen ar floc o fflatiau, chi sydd fel arfer yn gyfrifol am atgyweirio ardaloedd cyffredin, fel grisiau. Gall cynghorau ofyn i landlordiaid ddatrys problemau mewn ardaloedd cyffredin, neu atgyweirio fflat tenant sydd wedi’i ddifrodi gan denant arall.

Yr hyn sy’n digwydd os na wneir atgyweiriadau yn iawn

Os byddwch yn gwrthod gwneud atgyweiriadau, gall tenantiaid wneud y canlynol:

  • dechrau hawliad yn y llys mân-symiau am atgyweiriadau o dan £5,000
  • o dan rai amgylchiadau, gwneud y gwaith atgyweirio eu hunain a didynnu’r gost o’u rhent

Os nad ydych yn gwneud atgyweiriadau i gael gwared ar beryglon, gall eich tenantiaid ofyn i’r cyngor archwilio’r eiddo o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai (HHSRS) a chymryd unrhyw gamau sy’n angenrheidiol.

Os yw’r cyngor yn canfod peryglon difrifol, rhaid iddo gymryd camau gorfodi i sicrhau bod y perygl yn cael ei ddileu.

Os nad yw’r eiddo yn addas i fyw ynddo dros dro

Gallwch ofyn i denantiaid symud allan yn ystod gwaith atgyweirio mawr. Cyn i hyn ddigwydd, dylech gytuno i’r canlynol yn ysgrifenedig:

  • pa mor hir y bydd y gwaith yn para
  • hawl y tenantiaid i ddychwelyd
  • manylion unrhyw lety amgen

Ni allwch ad-ennill meddiant eiddo i wneud gwaith atgyweirio. Fodd bynnag, os ydych yn cynllunio gwaith sylweddol, neu os ydych am ailddatblygu’r eiddo, gallwch wneud cais i’r llysoedd am orchymyn i’ch tenantiaid adael. Mae’r llysoedd yn fwy tebygol o ganiatáu hyn os ydych yn darparu llety amgen.

Gwaith atgyweirio a chodi rhent

Os yw’r gwaith atgyweirio’n aflonyddgar iawn, efallai y bydd eich tenantiaid yn gallu hawlio gostyngiad ar eu rhent a elwir yn ‘diddymiad rhent’. Bydd hyn yn dibynnu ar faint o’r eiddo na ellir ei ddefnyddio. 

Mae’n bosibl bydd gennych yr hawl i gynyddu’r rhent ar ôl cynnal atgyweiriadau a gwelliannau, yn dibynnu ar y cytundeb tenantiaeth (yn agor tudalen Saesneg)