Rhoi eich eiddo ar osod
Datrys anghydfodau
Yn aml, gallwch ddatrys anghydfodau gyda’ch tenantiaid heb fynd i’r llys:
-
Siaradwch â’ch tenantiaid am eich pryderon.
-
Os nad yw hyn yn gweithio, ysgrifennwch lythyr ffurfiol yn nodi’r broblem.
-
Defnyddiwch wasanaeth cyfryngu, sydd fel arfer yn rhatach ac yn gyflymach na mynd i’r llys.
-
Pan fydd popeth arall wedi methu, gallwch fynd â’ch tenantiaid i’r llys.
Mae rheolau gwahanol ar gyfer datrys anghydfodau yn yr Alban a datrys anghydfodau yng Ngogledd Iwerddon.
Mynd gerbron y llys
Os byddwch yn cymryd camau cyfreithiol, gall yr achos fynd i’r llys mân-symiau. Achosion mân-symiau yw’r achosion sy’n werth llai na £10,000 (neu £1,000 os yw’r achos yn ymwneud â gwaith i atgyweirio eiddo).
Mae’n bosibl bydd y llys yn cynnig cyfryngu i chi neu’n dweud wrthoch chi am fynychu ar ôl i chi wneud hawliad. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim ac yn digwydd dros y ffôn.
Os ydych am gael eich eiddo yn ôl oherwydd bod eich tenantiaid ag arian rhent yn ddyledus i chi, gallwch wneud hawliad am feddiant ar-lein.
Mae’n rhaid i chi ddilyn rheolau penodol os ydych chi am droi tenantiaid allan (yn agor tudalen Saesneg).
Cyngor sy’n rhad ac am ddim ar gyfer mynd i’r afael ag anghydfodau
Gallwch gael cyngor sy’n rhad ac am ddim gan Shelter a chyngor sy’n rhad ac am ddim gan Citizens Advice ynghylch anghydfodau a phroblemau tai.
Yng Nghymru, gallwch gysylltu â Shelter Cymru.
Mae’n bosibl y gallwch gael cyngor cyfreithiol cyfrinachol sy’n rhad ac am ddim gan y Cyngor Cyfreithiol Sifil (CLA) fel rhan o gymorth cyfreithiol (yn agor tudalen Saesneg), os ydych yng Nghymru a Lloegr.
Gall cyfreithiwr eich helpu hefyd, ond mae’n bosibl y bydd yn codi ffi.