Tai Amlfeddiannaeth (HMO)

Os ydych yn rhoi eich eiddo ar osod i nifer o denantiaid nad ydynt yn aelodau o’r un teulu, gall fod yn ‘Tŷ Amlfeddiannaeth’ (HMO). 

Mae eich eiddo yn HMO os yw’r naill a’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae o leiaf 3 tenant yn byw yno, gan ffurfio mwy nag un aelwyd
  • mae cyfleusterau toiled, ystafell ymolchi neu gegin yn cael eu rhannu

Mae aelwyd yn cynnwys naill ai person sengl neu aelodau o’r un teulu sy’n byw gyda’i gilydd. Mae’n cynnwys pobl sy’n briod neu’n byw gyda’i gilydd a phobl mewn perthynas o’r un rhyw.

Trwyddedau

Mae’n rhaid i HMO gael trwydded os yw’n cael ei feddiannu gan 5 neu fwy o bobl. Gall cyngor hefyd gynnwys mathau eraill o HMOs ar gyfer trwyddedu. 

Dysgwch a oes angen trwydded HMO arnoch (yn agor tudalen Saesneg) gan eich cyngor.

Asesiad risg

Mae’n rhaid i’r cyngor gynnal asesiad risg y System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai (HHSRS) ar eich HMO cyn pen 5 mlynedd o gael cais am drwydded. Os yw’r arolygydd yn canfod unrhyw risgiau annerbyniol yn ystod yr asesiad, bydd yn rhaid i chi wneud gwaith i’w dileu.

Rhoi gwybod am newidiadau

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r cyngor os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych chi’n bwriadu gwneud newidiadau i HMO
  • mae eich tenantiaid yn gwneud newidiadau
  • mae amgylchiadau eich tenantiaid yn newid (er enghraifft, maent yn cael plentyn)