Llety hunanddarpar a llety gwyliau ar osod

Mae’r angen i dalu ardrethi busnes yn dibynnu ar y nifer y nosweithiau y mae’ch eiddo ar gael i’w osod bob blwyddyn a sawl noson cafodd eich eiddo ei roi ar osod mewn gwirionedd.

Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn cyfrifo gwerth ardrethol eich eiddo yn seiliedig ar y math o eiddo sydd dan sylw, ei faint, lleoliad, ansawdd, a faint o incwm rydych yn debygol o’i gael o’i osod.

Os mai dim ond un eiddo rydych yn ei osod, a bod ei werth ardrethol yn llai na £15,000, efallai y byddwch yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi ar gyfer busnesau bach.

Mae rheolau gwahanol os yw’ch eiddo yn yr Alban neu os yw’ch eiddo yng Ngogledd Iwerddon.

Rheolau hyd nes 31 Mawrth 2023

Os yw’ch eiddo yn Lloegr ac ar gael i’w osod am gyfnodau byr am o leiaf 140 noson y flwyddyn, bydd yn cael ei ystyried i fod yn eiddo hunanddarpar a bydd yn cael ei brisio at ddibenion ardrethi busnes.

Os yw’ch eiddo yng Nghymru bydd yn cael ei ystyried i fod yn eiddo hunanddarpar ac yn cael ei brisio at ddibenion ardrethi busnes os yw’r canlynol yn wir:

  • mae ar gael i’w osod am gyfnodau byr am o leiaf 140 noson bob blwyddyn
  • mae’n cael ei roi ar osod mewn gwirionedd am o leiaf 70 diwrnod bob blwyddyn

Rheolau o 1 Ebrill 2023 ymlaen

Os yw’ch eiddo yn Lloegr bydd yn cael ei ystyried i fod yn eiddo hunanddarpar ac yn cael ei brisio at ddibenion ardrethi busnes os yw’r canlynol yn wir:

  • mae ar gael i’w osod am gyfnodau byr sy’n dod i gyfanswm o 140 noson, o leiaf, yn ystod y flwyddyn dreth bresennol a blynyddoedd treth blaenorol
  • mae wedi’i roi ar osod mewn gwirionedd am o leiaf 70 diwrnod yn ystod y 12 mis diwethaf

Os yw’ch eiddo yng Nghymru bydd yn cael ei ystyried yn eiddo hunanddarpar ac yn cael ei brisio ar gyfer ardrethi busnes os yw pob un o’r canlynol yn wir:

  • mae ar gael i’w osod am gyfnodau byr sy’n dod i gyfanswm o 252 noson, o leiaf, yn ystod y flwyddyn dreth bresennol a blynyddoedd treth blaenorol
  • mae wedi’i roi ar osod mewn gwirionedd am o leiaf 182 diwrnod yn ystod y 12 mis diwethaf