Rhoi eich eiddo ar osod
Cyfrifoldebau landlordiaid
Rydych yn landlord os ydych yn rhoi eich eiddo ar osod.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Fel landlord, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- sicrhau bod yr eiddo rydych wedi’u rhoi ar osod yn ddiogel ac nad oes peryglon i iechyd
- sicrhau bod yr holl gyfarpar nwy a chyfarpar trydanol wedi’u gosod a’u cynnal yn ddiogel
- darparu Tystysgrif Perfformiad Ynni (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer yr eiddo
- diogelu blaendal eich tenant (yn agor tudalen Saesneg) mewn cynllun a gymeradwywyd gan y llywodraeth
- os yw’r eiddo yn Lloegr, gwirio bod gan eich tenant yr hawl i rentu eich eiddo (yn agor tudalen Saesneg)
- rhoi copi o’r rhestr wirio Sut i rentu (yn agor tudalen Saesneg) i’ch tenant pan fydd yn dechrau rhentu eich eiddo (gallwch ei e-bostio ato)
Mae rheolau gwahanol ar gyfer landlordiaid yn yr Alban a landlordiaid yng Ngogledd Iwerddon.
Diogelwch tân
Eich cyfrifoldeb chi yw’r canlynol:
- ffitio a phrofi larymau mwg a larymau carbon monocsid (yn agor tudalen Saesneg)
- dilyn rheoliadau diogelwch tân ar gyfer eiddo mewn bloc o fflatiau wedi’u hadeiladu’n bwrpasol neu ar gyfer tai ac eiddo wedi’u haddasu’n fflatiau (yn agor tudalen Saesneg)
Archwiliadau iechyd a diogelwch
Mae’r System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai (HHSRS) (yn agor tudalen Saesneg) yn cael ei defnyddio gan eich cyngor i sicrhau bod pob eiddo yn ei ardal yn ddiogel i’r bobl sy’n byw yno. Mae hyn yn golygu archwilio’ch eiddo am beryglon posibl, fel grisiau anwastad.
Os ydych yn berchen ar eiddo ac yn ei roi ar osod, gall y cyngor benderfynu gwneud archwiliad HHSRS am y rhesymau canlynol:
- mae eich tenantiaid wedi gofyn am archwiliad
- mae’r cyngor wedi gwneud arolwg o eiddo lleol ac o’r farn y gallai’ch eiddo fod yn beryglus
Sgoriau perygl HHSRS
Mae arolygwyr yn edrych ar 29 o feysydd iechyd a diogelwch ac yn gosod pob perygl y maent yn eu canfod naill ai yng nghategori 1 neu 2, yn seiliedig ar eu difrifoldeb.
Mae’n rhaid i chi weithredu ar hysbysiadau gorfodi a gewch gan eich cyngor. Mae gennych hefyd yr hawl i apelio yn erbyn hysbysiadau gorfodi.
Gall y cyngor wneud unrhyw un o’r canlynol os ydynt yn dod o hyd i berygl difrifol:
- cyhoeddi hysbysiad gwella
- trwsio’r perygl eu hunain a’ch bilio am y gost
- eich atal chi neu unrhyw un arall rhag defnyddio’r eiddo cyfan, neu ran ohono
Cyfrifoldebau ariannol
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm ar eich incwm rhent, llai eich costau rhedeg o ddydd i ddydd. Mae rheolau gwahanol os ydych yn defnyddio’r Cynllun Rhentu Ystafell.
Mae’n bosibl y gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol neu Ddosbarth 3 gwirfoddol.
Os mai dim ond yn achlysurol y byddwch yn rhoi eich eiddo neu ran o’ch cartref ar osod (er enghraifft, drwy apiau rhentu tymor byr), gwiriwch a oes angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am yr incwm hwn.
Os oes gennych forgais ar yr eiddo rydych am ei roi ar osod, mae’n rhaid i chi gael caniatâd eich benthyciwr morgais.
Tenantiaethau rheoleiddiedig
Mae rheolau arbennig ar gyfer newid rhent a newid telerau ar gyfer tenantiaethau rheoleiddiedig (fel arfer, tenantiaethau preifat sy’n dechrau cyn 15 Ionawr 1989).