Trosolwg

Mae’n bosibl y gallwch hawlio rhyddhad treth os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn defnyddio’ch arian eich hunan am bethau y mae’n rhaid i chi eu prynu ar gyfer eich swydd
  • dim ond ar gyfer eich gwaith rydych yn defnyddio’r pethau hyn

Ni allwch hawlio rhyddhad treth os yw’ch cyflogwr yn rhoi un o’r canlynol i chi:

  • yr holl arian yn ôl
  • rhywbeth arall, er enghraifft mae’ch cyflogwr yn rhoi gliniadur i chi ond rydych eisiau math neu fodel gwahanol

Os yw’ch cyflogwr wedi talu rhywfaint o’ch treuliau, gallwch dim ond hawlio rhyddhad treth ar y swm nad yw’ch cyflogwr wedi’i dalu.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae’n rhaid i chi fod wedi talu treth yn ystod y flwyddyn rydych yn hawlio ar ei chyfer. Ni all swm y rhyddhad treth a gewch fod yn fwy na swm y dreth a dalwyd gennych yn y flwyddyn dreth honno.

Cewch ryddhad treth yn seiliedig ar yr hyn rydych wedi’i wario a’r gyfradd rydych yn talu treth arni.

Enghraifft

Os ydych yn hawlio £60 ac yn talu treth ar gyfradd o 20% yn y flwyddyn honno, rydych yn gymwys i gael swm o £12 (20% o £60).

Os ydych yn hawlio ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol, bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) fel arfer yn addasu’ch cod treth fel eich bod yn talu llai o dreth.

Os ydych yn hawlio ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol, bydd CThEF naill ai’n addasu’ch cod treth neu’n rhoi ad-daliad treth i chi.

Sut i hawlio

Mae sut yr ydych yn hawlio yn dibynnu ar yr hyn yr ydych yn ei hawlio. Dysgwch a ydych yn gymwys i hawlio rhyddhad treth a sut i wneud hynny:

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae’n rhaid i chi hawlio rhyddhad treth drwy’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn lle defnyddio’r gwasanaeth ar-lein.

Os ydych yn amcangyfrif eich treuliau swydd

Erbyn diwedd y flwyddyn dreth, os yw’r swm gwirioneddol a wariwyd gennych yn wahanol i’r swm amcangyfrifedig y gwnaethoch ei hawlio, mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF.  

Mae’n rhaid i chi anfon tystiolaeth o’r hyn yr ydych wedi’i wario, a gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol:   

Os yw’r swm a wariwyd gennych yn is na’r swm amcangyfrifedig, gallwch roi gwybod i CThEF dros y ffôn.