Gwisgoedd unffurf, dillad gwaith ac offer

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio rhyddhad treth ar gyfer y costau canlynol:

  • atgyweirio mân offer sydd eu hangen arnoch i wneud eich gwaith, neu brynu rhai newydd (er enghraifft, siswrn neu dril trydanol)

  • glanhau neu atgyweirio dillad arbenigol, neu brynu rhai newydd (er enghraifft, oferôls neu esgidiau diogelwch)

Hawlio rhyddhad ar gyfer gwisg unffurf neu ddillad arbenigol

Gallwch hawlio rhyddhad treth ar gyfer gwisg unffurf. Gwisg unffurf yw set o ddillad sy’n dangos fod gennych swydd benodol, er enghraifft nyrs, neu swyddog heddlu.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio ar gyfer dillad arbenigol sydd eu hangen arnoch ar gyfer gwaith, hyd yn oed os nad ydynt yn dangos fod gennych swydd benodol, er enghraifft oferôls neu esgidiau diogelwch.

Ni allwch hawlio rhyddhad treth ar gyfer:

  • y gost gychwynnol o brynu dillad ar gyfer gwaith

  • glanhau neu atgyweirio dillad gwaith bob dydd, neu brynu rhai newydd (hyd yn oed os oes rhaid i chi wisgo dyluniad neu liw penodol)

  • y gost o olchi eich gwisg unffurf neu ddillad arbenigol eich hun os yw’ch cyflogwr yn darparu gwasanaeth golchi dillad yn rhad ac am ddim, a’ch bod yn dewis peidio â’i ddefnyddio

Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)

Ni allwch hawlio rhyddhad treth ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol. Os yw’ch swydd yn gofyn i chi ddefnyddio Cyfarpar Diogelu Personol dylai’ch cyflogwr wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • rhoi Cyfarpar Diogelu Personol i chi yn rhad ac am ddim

  • gofyn i chi ei brynu ac ad-dalu’r costau i chi

Faint y gallwch ei hawlio

Gallwch hawlio’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • y swm gwirioneddol a wariwyd gennych

  • swm penodedig a gytunwyd arno (‘traul gyfradd unffurf’ neu ‘didyniad cyfradd unffurf’)

Gwiriwch a oes gan eich swydd draul gyfradd unffurf (yn agor tudalen Saesneg) y cytunwyd arni.

Gallwch hawlio ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol a’r 4 blwyddyn dreth flaenorol.

Sut i hawlio

Os ydych yn hawlio’r union swm a wariwyd gennych, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:   

  • anfon copïau o’ch derbynebau, neu dystiolaeth arall, sy’n profi eich bod wedi talu am yr eitemau hyn  

  • hawlio’r eitemau hyn fel ‘Treuliau eraill’ yn y gwasanaeth hwn 

Os ydych yn hawlio swm sefydlog y cytunwyd arno (‘traul gyfradd unffurf’ (yn agor tudalen Saesneg)) mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:   

  • peidio ag anfon unrhyw dystiolaeth  

  • hawlio’r eitemau hyn fel ‘Gwisgoedd unffurf, dillad gwaith ac offer’ yn y gwasanaeth hwn

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud y canlynol: 

  • gwirio a allwch hawlio 

  • gwneud hawliad, os ydych yn gymwys

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae’n rhaid i chi hawlio rhyddhad treth drwy’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn lle defnyddio’r gwasanaeth ar-lein.

Dechrau nawr