Ffioedd a thanysgrifiadau proffesiynol

Gallwch hawlio rhyddhad treth ar y canlynol:

Ni allwch hawlio rhyddhad treth ar danysgrifiadau aelodaeth oes, na ffioedd aelodaeth neu danysgrifiadau blynyddol proffesiynol os:

  • nad ydych wedi talu amdanynt eich hunan (er enghraifft, os yw’ch cyflogwr wedi eu talu)

  • ydych wedi eu talu i sefydliadau proffesiynol sydd heb eu cymeradwyo gan CThEF

Gall eich sefydliad roi gwybod i chi faint o dreth y caniateir i chi ei hawlio’n ôl.

Gallwch hawlio ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol a’r 4 blwyddyn dreth flaenorol.

Sut i hawlio

Pan fyddwch yn hawlio, bydd yn rhaid i chi anfon copïau o dderbynebau, neu dystiolaeth arall, sy’n dangos faint rydych wedi’i dalu am bob ffi neu danysgrifiad proffesiynol.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wirio:

  • a allwch hawlio

  • sut i hawlio

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae’n rhaid i chi hawlio rhyddhad treth drwy’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn lle defnyddio’r gwasanaeth ar-lein.

Dechrau nawr