Prynu offer arall

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio rhyddhad treth ar gost lawn offer sylweddol y mae’n rhaid i chi eu prynu er mwyn gwneud eich gwaith. Mae hyn oherwydd bod offer yn gymwys ar gyfer math o lwfans cyfalaf o’r enw lwfans buddsoddi blynyddol.

Ni allwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer ceir, beiciau neu feiciau modur a ddefnyddir gennych ar gyfer gwaith, ond mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio ar gyfer milltiroedd busnes a chostau tanwydd.

Rydych yn hawlio mewn ffordd wahanol ar gyfer eitemau bach a fydd yn para am lai na 2 flynedd, megis gwisgoedd unffurf ac offer ar gyfer gwaith.

Gallwch dim ond hawlio rhyddhad treth ar gyfer treuliau offer os yw’r canlynol yn wir:

  • mae angen yr offer hyn arnoch i wneud eich swydd

  • rydych yn defnyddio’r offer ar gyfer gwaith ac nid oes unrhyw ddefnydd preifat sylweddol – mae hyn yn cynnwys defnyddio’r offer yn unol â pholisi’ch sefydliad

Sut i hawlio

Pan fyddwch yn hawlio, bydd yn rhaid i chi egluro ar gyfer pa gyflogaeth y mae’r hawliadau ar ei chyfer, ac anfon tystiolaeth sy’n dangos yr hyn yr ydych wedi’i wario, megis copïau o dderbynebau.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wirio:

  • a allwch hawlio

  • sut i hawlio

Dechrau nawr