Hawlio rhyddhad treth ar gyfer eich treuliau swydd
Cerbydau rydych yn eu defnyddio ar gyfer gwaith
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio rhyddhad treth os ydych yn defnyddio ceir, faniau, beiciau neu feiciau modur ar gyfer gwaith.
Nid yw hyn yn cynnwys teithio i’ch gwaith ac yn ôl, oni bai ei fod yn lleoliad gweithio dros dro.
Mae faint y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar p’un a ydych yn defnyddio’r canlynol:
-
cerbyd yr ydych wedi ei brynu neu ei rentu ar brydles gyda’ch arian eich hunan
-
cerbyd y mae’ch cyflogwr yn berchen arno neu’n ei roi ar brydles (cerbyd cwmni)
Gallwch hawlio am y flwyddyn dreth bresennol a’r 4 blwyddyn dreth flaenorol, os ydych yn gymwys.
Defnyddio’ch cerbyd eich hunan ar gyfer gwaith
Os ydych yn defnyddio’ch cerbyd neu’ch cerbydau eich hunan ar gyfer gwaith, mae’n bosibl y gallwch hawlio rhyddhad treth ar y gyfradd milltiroedd gymeradwy. Mae hyn yn cwmpasu’r costau a godir o berchen ar eich cerbyd a’i redeg. Ni allwch hawlio ar wahân ar gyfer pethau megis:
-
tanwydd
-
trydan
-
treth cerbyd
-
MOT
-
atgyweiriadau
Er mwyn cyfrifo faint y gallwch ei hawlio ar gyfer bob blwyddyn dreth, bydd angen i chi wneud y canlynol:
-
cadw cofnodion o’r dyddiadau a’r milltiroedd o’ch teithiau gwaith
-
adio’r milltiroedd at ei gilydd ar gyfer pob math o gerbyd yr ydych wedi ei ddefnyddio ar gyfer gwaith
-
didynnu unrhyw swm y mae’ch cyflogwr yn ei dalu tuag at eich costau (a elwir weithiau yn ‘lwfans milltiroedd’)
Cyfraddau milltiroedd cymeradwy
Y 10,000 milltir busnes cyntaf yn y flwyddyn dreth | Bob milltir busnes dros 10,000 yn y flwyddyn dreth | |
---|---|---|
Ceir a faniau | 45c | 25c |
Beiciau modur | 24c | 24c |
Beiciau | 20c | 20c |
Defnyddio car cwmni ar gyfer busnes
Gallwch hawlio rhyddhad treth ar yr arian yr ydych wedi ei wario ar danwydd a thrydan ar gyfer teithiau busnes yn eich car cwmni. Cadwch gofnodion i ddangos cost wirioneddol y tanwydd.
Os yw’ch cyflogwr yn ad-dalu peth o’r arian, gallwch hawlio rhyddhad ar y gwahaniaeth.
Sut i hawlio
Pan fyddwch yn hawlio, bydd yn rhaid i chi anfon copïau o’ch logiau milltiroedd at Gyllid a Thollau EF (CThEF). Mae’n rhaid i’r logiau milltiroedd hyn gynnwys y canlynol:
-
y rheswm dros bob taith
-
y cod post ar gyfer pwynt dechrau pob taith
-
y cod post ar gyfer pwynt dod i ben pob taith
Os ydych yn hawlio am fwy nag un gyflogaeth, mae’n rhaid i chi anfon copïau o’ch logiau milltiroedd ar gyfer pob un.
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wirio:
-
a allwch hawlio
-
sut i hawlio
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae’n rhaid i chi hawlio rhyddhad treth drwy’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn lle defnyddio’r gwasanaeth ar-lein.