Gweithio gartref

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio rhyddhad treth ar gyfer costau ychwanegol yr aelwyd os ydych yn gweithio gartref am yr wythnos gyfan, neu am ran o’r wythnos.

Pwy all hawlio rhyddhad treth

Gallwch hawlio rhyddhad treth os oes rhaid i chi weithio gartref, er enghraifft oherwydd:

  • bod eich swydd yn gofyn i chi fyw ymhell o’ch swyddfa

  • nad oes gan eich cyflogwr swyddfa

Pwy na all hawlio rhyddhad treth

Ni allwch hawlio rhyddhad treth os ydych yn dewis gweithio gartref. Mae hyn yn cynnwys os yw’r canlynol yn wir:

  • mae eich contract cyflogaeth yn caniatáu i chi weithio gartref yr holl amser neu ar adegau

  • mae gan eich cyflogwr swyddfa, ond ni allwch fynd yno weithiau am ei fod yn llawn

Yr hyn y gallwch hawlio ar ei gyfer

Gallwch dim ond hawlio am bethau sy’n ymwneud â’ch gwaith, megis:

  • galwadau ffôn busnes

  • nwy a thrydan ar gyfer eich man gwaith

Gallwch hawlio ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol a’r 4 blwyddyn dreth flaenorol.

Ni allwch hawlio am bethau yr ydych yn eu defnyddio at ddibenion busnes ac sydd hefyd yn cael eu defnyddio at ddibenion preifat, megis rhent neu gysylltiad band eang.

Faint y gallwch ei hawlio 

Gallwch hawlio rhyddhad treth ar y naill neu’r llall o’r canlynol: 

  • £6 yr wythnos 

  • yr union swm a wariwyd gennych 

Cewch ryddhad treth yn seiliedig ar y gyfradd yr ydych yn talu treth arni. 

Enghraifft

Os ydych yn talu’r gyfradd dreth sylfaenol o 20% ac yn hawlio rhyddhad treth ar £6 yr wythnos, byddech yn cael £1.20 yr wythnos mewn rhyddhad treth (20% o £6).

Sut i hawlio

Pan fyddwch yn hawlio, bydd yn rhaid i chi anfon tystiolaeth i brofi eich bod yn gweithio gartref os ydych yn hawlio’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • £6 yr wythnos ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 neu ar ôl hynny

  • yr union swm a wariwyd gennych

Os ydych yn hawlio’r union swm a wariwyd gennych, bydd hefyd angen i chi anfon tystiolaeth megis copi o’ch derbynebau neu’ch biliau.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wirio:

  • a allwch hawlio

  • sut i hawlio

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae’n rhaid i chi hawlio rhyddhad treth drwy’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn lle defnyddio’r gwasanaeth ar-lein.

Dechrau nawr