Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 os nad ydych yn talu drwy Hunanasesiad
Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
Gallwch dalu ag arian parod neu siec yn eich cangen.
Bydd angen eich slip cyflog ‘Cyllid a Thollau EF’ (CThEF). Fe welwch hyn ar y cais am daliad a anfonwyd atoch gan CThEF.
Os byddwch yn talu rhwng dydd Llun a dydd Gwener, bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, nid y dyddiad y bydd yn cyrraedd cyfrif CThEF.
Gwnewch y siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.
Ysgrifennwch eich cyfeirnod 18 digid ar gefn eich siec. Bydd y cyfeirnod ar y slip cyflog neu ar y cais am daliad a anfonwyd atoch gan CThEF.
Os nad oes gennych gais am daliad neu gyfeirnod, gallwch gael help gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
Cadarnhad o’r taliad
Nid oes angen i chi gysylltu â CThEF i gadarnhau bod eich taliad wedi dod i law.
Bydd yn ymddangos ar eich cofnod Yswiriant Gwladol. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.