Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 os nad ydych yn talu drwy Hunanasesiad
Talu â siec drwy’r post
Gallwch dalu drwy anfon siec at:
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Yr hyn i’w gynnwys
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.
Bydd angen y canlynol arnoch:
-
y cyfeirnod 18 digid a ddangosir ar eich cais am daliad gan CThEF - ysgrifennwch hwn ar gefn y siec
-
y slip cyflog a anfonwyd atoch ar waelod eich cais am daliad gan CThEF
Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
Peidiwch â phlygu’ch slip cyflog na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.
Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid
Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda CThEF, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Os nad oes gennych slip cyflog CThEF
Dylech gynnwys nodyn sy’n nodi:
-
eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn
-
y cyfeirnod 18 digid a ddangosir ar eich cais am daliad
-
eich rhif Yswiriant Gwladol – dod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol os ydych wedi’i golli
-
faint rydych yn ei dalu
Cadarnhad o’r taliad
Os hoffech dderbynneb, dylech gynnwys nodyn yn gofyn am un.
Gallwch hefyd wirio’ch cofnod Yswiriant Gwladol. Caniatewch hyd at 8 wythnos i’ch taliad ymddangos.