Ar ôl i chi gael eich penodi'n warcheidwad

Bydd y gorchymyn gwarcheidiaeth yn dweud wrthych pryd gallwch ddechrau gwneud penderfyniadau ar ran yr unigolyn a pha fath o benderfyniad y gallwch ei wneud.

Bydd y gorchymyn hefyd yn dweud wrthych chi am ba hyd rydych chi’n warcheidwad.

Cysylltwch â’r Uchel Lys os oes camgymeriadau ar y gorchymyn.

Bydd angen i chi wneud cais arall i wneud penderfyniad ar unrhyw beth nad yw’n rhan o’r gorchymyn.

Rhoi gwybod i bobl eich bod chi’n warcheidwad

Efallai y bydd y llys yn rhoi’r hawl i chi wybod ble mae gan yr unigolyn gyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu, os nad ydych chi’n gwybod hynny’n barod. Bydd angen i chi ysgrifennu at y banciau a’r cymdeithasau adeiladu i gael gwybod.

Os yw’r gorchymyn yn cyfeirio at bobl neu sefydliadau, rhowch wybod iddynt mai chi yw’r gwarcheidwad.

Dyma rai enghreifftiau:

  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • banciau neu gymdeithasau adeiladu
  • cwmnïau yswiriant bywyd
  • talwr unrhyw bensiynau preifat
  • y cyfreithiwr sy’n dal ewyllys neu weithredoedd eiddo yr unigolyn
  • darparwyr cyfleustodau
  • y cwmni lle mae gan yr unigolyn forgais

Anfonwch y canlynol:

  • y gorchymyn gwarcheidiaeth
  • prawf o’ch enw a’ch cyfeiriad
  • prawf o enw a chyfeiriad yr unigolyn rydych chi’n warcheidwad iddo

Gallai prawf o enw a chyfeiriad fod yn drwydded yrru neu’n fil cyfleustodau. Holwch y sefydliad:

  • pa brawf o enw a chyfeiriad mae’n ei dderbyn
  • a fydd yn derbyn llungopi o’r gorchymyn gwarcheidiaeth neu dim ond y gwreiddiol

Gofynnwch i’r sefydliadau anfon eich gorchymyn gwarcheidiaeth yn ôl atoch pan fyddwch chi’n ei anfon, neu efallai y byddwch yn mynd yn brin o gopïau.

Talu biliau a chanslo taliadau

Ar ôl i chi gael mynediad at gyfrifon yr unigolyn a phan fyddwch yn gwybod o ble daw eu hincwm a’u hasedau, gallwch lunio rhestr lawn o’r hyn sydd ganddynt yn eu hystad er mwyn i chi wybod beth rydych chi’n gyfrifol amdanynt. Os bydd y gorchymyn gwarcheidiaeth yn rhoi caniatâd i chi, talwch unrhyw filiau sy’n ddyledus a chanslo unrhyw daliadau nad ydynt yn berthnasol mwyach.