Pan ddaw'r warcheidiaeth i ben

Bydd eich gwarcheidiaeth yn dod i ben yn awtomatig os bydd un o’r canlynol yn digwydd:

  • mae eich gorchymyn gwarcheidiaeth yn dod i ben
  • mae’r unigolyn yn marw
  • mae rhywun yn gwneud datganiad o farwolaeth ragdybiedig
  • rydych chi’n marw

Os bydd yr unigolyn yn dychwelyd neu os byddwch chi’n penderfynu rhoi’r gorau iddi

Bydd angen i chi wneud cais i’r Uchel Lys i ddod â’r gorchymyn gwarcheidiaeth i ben (‘dirymu’).

Lawrlwythwch a llenwch ffurflen N244.

Cofiwch gynnwys rhif eich achos a dweud mai chi yw’r ‘hawlydd’.

Eglurwch yn yr adran manylion eich bod chi’n dymuno dirymu’r warcheidiaeth oherwydd bod yr unigolyn coll wedi dychwelyd neu oherwydd eich bod wedi penderfynu rhoi’r gorau iddi.

Adnewyddwch eich gwarcheidiaeth

Bydd y gorchymyn gwarcheidiaeth yn eich gwneud chi’n warcheidwad am 4 blynedd fan bellaf.

Gallwch wneud cais am orchymyn gwarcheidiaeth arall pan fydd y gorchymyn yn dod i ben. Mae’r broses yr un fath â gwneud cais am warcheidiaeth.