Gwneud penderfyniadau

Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn eich goruchwylio pan fyddwch chi’n gweithredu fel gwarcheidwad. Bydd angen i chi gadw cofnod o’r penderfyniadau y byddwch chi’n eu gwneud.

Dyma’r math o benderfyniadau y gall gorchymyn gwarcheidiaeth ganiatáu i chi eu gwneud:

  • gwneud buddsoddiad ar ran yr unigolyn
  • gwerthu rhai o asedau’r unigolyn
  • canslo debydau uniongyrchol

Rhaid i unrhyw benderfyniadau rydych chi’n eu gwneud dros rywun fod yn iawn i’r unigolyn (‘er budd pennaf iddynt’).

Gwneud penderfyniadau er budd pennaf rhywun

Dylech ystyried:

  • beth fyddai penderfyniad yr unigolyn pe byddai’n gallu ei wneud
  • teimladau a dymuniadau’r unigolyn
  • gwerthoedd a chredoau yr unigolyn, gan gynnwys safbwyntiau moesegol, gwleidyddol a chrefyddol
  • safbwyntiau pobl eraill sydd â buddiant yn eiddo’r unigolyn coll

Peidiwch â gwneud rhagdybiaethau ar sail oedran, rhywedd, cefndir ethnig, rhywioldeb neu iechyd.

Gall wneud hyn eich helpu:

  • ysgrifennu ar bapur yr hyn y mae’r unigolyn wedi’i ddweud wrthych sy’n bwysig iddynt
  • edrych ar bethau eraill yr oeddynt wedi’i ysgrifennu neu eu cofnodi (fel cyllidebau’r cartref neu fideos cartref)
  • siarad â ffrindiau, teulu neu gydweithwyr sy’n eu hadnabod yn dda

Bydd angen i chi anfon adroddiad at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gan esbonio pa benderfyniadau a wnaethoch.

Penderfyniadau anodd ac anghytuno

Ymgynghorwch â theulu a ffrindiau’r unigolyn. Gall cynnwys pawb mewn cyfarfod eich helpu i ddod i benderfyniad.

Os nad ydych chi’n gallu cytuno, mae modd i chi gael cyngor ynghylch sut mae dod i gytundeb gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Rhif ffôn: 0300 456 0300
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, rhwng 9am a 5pm
Dydd Mercher, rhwng 10am a 5pm Gwybodaeth am gost galwadau

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus / Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH

Rhaid i chi wneud cais arall i’r Uchel Lys er mwyn gwneud penderfyniad nad yw wedi’i gynnwys yn y gorchymyn gwarcheidiaeth.