Cwblhau eich adroddiad

Rhaid i chi ysgrifennu adroddiad ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus bob blwyddyn, yn egluro pa benderfyniadau rydych wedi’u gwneud fel gwarcheidwad.

Rhaid i’r adroddiad gynnwys:

  • y rhesymau dros eich penderfyniadau a pham roeddent er budd pennaf yr unigolyn
  • gyda phwy y gwnaethoch chi siarad a beth a ddywedon nhw oedd er budd pennaf yr unigolyn
  • y balans agoriadol a therfynol a chyfriflenni banc
  • y taliadau a’r trosglwyddiadau i mewn ac allan o’u cyfrifon
  • manylion asedau’r unigolyn
  • unrhyw asedau rydych wedi’u prynu neu eu gwerthu

Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dweud wrthych pa bryd i anfon eich adroddiad a sut.

Os na fyddwch chi’n anfon yr adroddiad, gallai Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wneud y canlynol:

  • cynyddu lefel yr oruchwyliaeth a gewch
  • gofyn i’r llys ddewis gwarcheidwad arall yn eich lle chi