Rheoli cyllid ac eiddo unigolyn sydd ar goll
Ar ôl i chi wneud cais
Bydd y llys yn anfon copïau o’ch ffurflen yn ôl atoch, ynghyd â ffurflenni ‘cydnabyddiad cyflwyno’ a rhif achos. Bydd yn cadw copi o’r ffurflen. Bydd yr Uchel Lys yn rhoi gwybod i chi ar ba ddyddiad y bydd y gwrandawiad.
Bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal o leiaf 8 wythnos ar ôl i’r Uchel Lys anfon y ffurflenni hawlio yn ôl atoch.
Pan fydd y llys wedi rhoi dyddiad y gwrandawiad i chi, bydd gofyn i chi roi gwybod i bobl eraill eich bod chi wedi gwneud cais cyn y gwrandawiad, rhag ofn y byddant yn gwrthwynebu. Hefyd, rhaid i chi hysbysebu eich hawliad mewn papur newydd.
Rhoi gwybod i deulu’r unigolyn eich bod chi wedi gwneud cais i fod yn warcheidwad iddo
Bydd gofyn i chi fod yn un o’r canlynol i’r unigolyn coll:
- gŵr, gwraig neu bartner sifil
- rhieni, brodyr a chwiorydd
- plant
Anfonwch y canlynol:
- copi o’r ffurflen hawlio
- y ffurflen cydnabyddiad cyflwyno y mae’r llys wedi’i hanfon atoch
- copïau o’r dystiolaeth ategol rydych wedi’i hanfon gyda’ch cais
- llythyr yn rhoi gwybod beth yw dyddiad y gwrandawiad cyntaf
Hysbysebu eich cais yn y newyddion
Rhaid i chi hysbysebu eich cais cyn pen 14 diwrnod i’r diwrnod y byddwch chi’n cael dyddiad ar gyfer y gwrandawiad llys cyntaf. Rhaid i’r hysbyseb ymddangos mewn papur newydd wedi’i argraffu neu bapur newydd ar-lein sy’n rhoi sylw i gyfeiriad hysbys arferol diwethaf yr unigolyn coll.
Sut i ysgrifennu’r hysbyseb
Cewch ddefnyddio’r templed hwn ar gyfer yr hysbyseb. Ychwanegwch eich gwybodaeth eich hun yn y cromfachau sgwâr.
Yn Adran [Deulu neu Siawnsri] yr Uchel Lys Barn
Rhif yr achos [ ]
O ran y cais a wnaed o dan Ddeddf Gwarcheidiaeth (Unigolyn Coll) 2017 am orchymyn gwarcheidiaeth ar gyfer [rhowch enw’r unigolyn coll].
Mae cais wedi’i gyflwyno i Adran [Deulu neu Siawnsri] yr Uchel Lys Barn, rhif yr achos [rhif yr achos], gan [eich enw] am orchymyn i [eich enw] gael ei benodi/phenodi yn warcheidwad ar gyfer [enw’r unigolyn coll] (“yr unigolyn coll”), a oedd yn arfer preswylio yn [cyfeiriad yr unigolyn coll].
Cynhelir gwrandawiad cyntaf y cais ar [dyddiad] yn [cyfeiriad y llys]. Mae gan unrhyw briod, partner sifil, rhiant, plentyn, brawd neu chwaer i’r unigolyn coll hawl i ymyrryd yn y mater. Caiff unrhyw unigolyn arall sydd â buddiant ofyn i’r llys am ganiatâd i ymyrryd yn y mater.
Os ydych chi’n dymuno rhoi hysbysiad o fwriad i ymyrryd neu ofyn i’r llys am ganiatâd i ymyrryd, dylech wneud hynny i [cyfeiriad y llys] cyn gynted â phosibl, a dim hwyrach na 14 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad cyntaf. Dylech gyflwyno copi o’r hysbysiad neu’r cais i’r hawlydd yn y cyfeiriad a nodir isod. Gall oedi wneud drwg i’ch potensial o gael caniatâd i ymyrryd os nad oes gennych chi hawl i ymyrryd, a beth bynnag, gellid ystyried hynny yng nghyswllt unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud â chostau.
[eich enw]
[Enw a chyfeiriad eich cynrychiolydd cyfreithiol, os oes gennych un]
[Eich cyfeiriad, os nad oes gennych gynrychiolydd cyfreithiol]
Rhoi gwybod i’r llys am yr hysbyseb
O leiaf 7 diwrnod cyn y gwrandawiad llys cyntaf, anfonwch dystiolaeth i’r Uchel Lys eich bod chi wedi hysbysebu’r cais. Cofiwch gynnwys rhif yr achos y mae’r llys wedi’i anfon atoch. Gallai tystiolaeth gynnwys:
- copi o’r dudalen wedi’i hargraffu
- dolen fyw ar gyfer gwefan
- cadarnhad gan y sefydliad newyddion
Yn y gwrandawiad
Dewch ag unrhyw ddogfennau ategol sydd gennych gyda chi i’r gwrandawiad.
Yn y gwrandawiad, gallai’r barnwr ystyried:
- eich perthynas â’r unigolyn coll
- barn yr unigolyn coll amdanoch chi (er enghraifft, os oes tystiolaeth ysgrifenedig o’r cyfnod cyn i’r unigolyn fynd ar goll)
- a oes gennych chi’r sgiliau a’r wybodaeth iawn i fod yn warcheidwad
- unrhyw wrthdaro buddiannau rhyngoch chi a’r unigolyn coll
Efallai y bydd y canlynol yn digwydd:
- gofynnir am ragor o wybodaeth gennych chi
- byddwch yn cael gwybod y bydd angen cynnal gwrandawiad arall
Bydd y llys yn dweud wrthych sut i gael gorchymyn llys os yw rhywun yn gwrthod rhoi gwybodaeth sydd ei hangen arnoch chi.
Efallai y bydd sawl gwrandawiad cyn i’r Uchel Lys wneud penderfyniad. Mae’n dibynnu ar ba mor gymhleth yw’r achos.
Os bydd yr Uchel Lys yn cymeradwyo eich cais
Efallai y bydd y barnwr yn dweud wrthych chi yn y gwrandawiad eich bod wedi bod yn llwyddiannus, neu efallai y bydd rhaid i chi aros rhywfaint cyn cael gwybod. Mae’n dibynnu ar ba mor gymhleth yw’ch achos a faint y mae’r unigolyn coll yn berchen arno.
Ar ôl i’r Uchel Lys roi gorchymyn gwarcheidiaeth i chi, bydd yn anfon sawl copi ohono atoch chi ac yn rhoi copi i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cofrestru eich gwarcheidiaeth ac yn eich goruchwylio. Efallai y bydd rhaid i chi dalu bond diogelwch. Bydd yr Uchel Lys yn dweud wrthych chi os yw hynny’n ofynnol.