Faint mae’n ei gostio

Rhaid i chi dalu un o’r rhain:

  • ffi gwneud cais o £528 os byddwch yn gwneud cais i Adran Siawnsri’r Uchel Lys
  • ffi gwneud cais o £245 os byddwch yn gwneud cais i Adran Deulu’r Uchel Lys

Anfonwch siec yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi’ gyda’ch cais.

Efallai y bydd rhaid i chi dalu bond diogelwch hefyd.

Ar ôl i chi gael eich penodi’n warcheidwad, rhaid i chi dalu:

  • ffi sefydlu o £200
  • ffi goruchwylio o £320 am bob blwyddyn o’ch gwarcheidiaeth

Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dweud wrthych sut a phryd i dalu eich ffioedd sefydlu a goruchwylio.

Os ydych chi eisiau cael yr arian yn ôl am y ffioedd o gyfrif yr unigolyn coll, gofynnwch i’r llys roi caniatâd i chi yn y gorchymyn gwarcheidiaeth.

Talu’r bond diogelwch

Efallai y bydd rhaid i chi dalu bond diogelwch cyn y cewch ddefnyddio’r gorchymyn gwarcheidiaeth. Bydd yr Uchel Lys yn dweud wrthych os bydd angen i chi dalu bond.

Os bydd y gorchymyn gwarcheidiaeth yn rhoi caniatâd i chi, cewch wneud un o’r canlynol:

  • defnyddio arian yr unigolyn i dalu am y bond
  • talu am y bond eich hun ac yna talu eich hun yn ôl pan fyddwch yn gallu cael mynediad at gyllid yr unigolyn

Ni chewch ddechrau gweithredu ar ran yr unigolyn nes byddwch wedi talu’r bond diogelwch.

Cael help i dalu eich ffioedd

Efallai y gallwch hefyd gael help i dalu ffioedd llys.