Gwneud cais i fod yn warcheidwad

Gallwch wneud cais eich hun neu ddefnyddio cynrychiolydd cyfreithiol.

Llenwi’r ffurflen

Lawrlwythwch a llenwch ffurflen hawlio rhan 8.

Cofiwch gynnwys:

  • eich enw a’ch cyfeiriad (o dan ‘hawlydd’)
  • enw’r unigolyn coll (o dan ‘diffynnydd’)
  • eich perthynas â’r unigolyn coll
  • cyfeiriad hysbys olaf yr unigolyn
  • pryd aeth yr unigolyn ar goll
  • pa mor hir mae’r unigolyn wedi bod ar goll

Os ydych yn gwneud cais â phobl eraill, llenwch un ffurflen a chynnwys manylion pawb arni.

Bydd angen i chi ysgrifennu datganiad tyst i helpu’r llys i benderfynu a ydych chi’n warcheidwad addas.

Datganiad tyst

Cadarnhewch fod yr unigolyn coll yn byw yng Nghymru neu yn Lloegr fel arfer.

Os nad ydych yn ŵr, gwraig, partner sifil, rhiant, plentyn, brawd neu chwaer i’r unigolyn, eglurwch pam fod gennych fuddiant yn eiddo neu faterion ariannol yr unigolyn.

Os yw’r unigolyn ar goll ers llai na 90 diwrnod, eglurwch fod angen y gorchymyn gwarcheidiaeth arnoch ar frys, er enghraifft oherwydd bod yr unigolyn ar fin colli eu cartref.

Dylech gynnwys y canlynol yn eich datganiad:

  • gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd yr unigolyn a pha bryd y rhoddwyd gorau i wneud y rhain
  • tystiolaeth fod yr unigolyn ar goll ers o leiaf 90 diwrnod
  • gwybodaeth am eiddo a chyllid yr unigolyn
  • beth rydych yn ei wybod am y ffaith eu bod wedi diflannu a ble allant fod
  • manylion unrhyw ymchwiliad neu adroddiad gan yr heddlu
  • enwau a chyfeiriadau teulu’r unigolyn coll, os oes ganddynt deulu
  • yr hysbyseb newyddion arfaethedig
  • a ydych chi erioed wedi eich cael yn euog o drosedd
  • a oes unrhyw un wedi gwrthod rhoi credyd i chi
  • a ydych erioed wedi bod yn fethdalwr
  • a ydych wedi rhedeg cwmni a aeth yn ansolfent neu a aeth i’r wal
  • cadarnhad eich bod yn credu bod y ffeithiau yn y ddogfen yn wir ac yn gywir (‘datganiad gwirionedd’)

Anfon y ffurflen i’r Uchel Lys

Anfonwch y cais i un o’r canlynol:

  • Adran Siawnsri yr Uchel Lys - os oes problemau cymhleth ag eiddo neu ymddiriedolaeth
  • Adran Deulu yr Uchel Lys - os yw’n debygol y bydd problemau neu anghytuno yn codi ymhlith y teulu
  • Cofrestrfa Dosbarth eich Uchel Lys lleol

Gall yr Uchel Lys drosglwyddo eich gwrandawiad o un adran i’r llall. Ni fydd hyn yn arwain at newid y swm y bydd rhaid i chi ei dalu.

Anfonwch un copi union yr un fath at bob unigolyn y mae’n rhaid i chi roi gwybod iddynt, ynghyd â chopi ar gyfer y llys.

  • y ffurflen a’r datganiad tyst
  • unrhyw ddogfennau sydd gennych fel tystiolaeth ategol, er enghraifft adroddiadau gan yr heddlu
  • siec am ffi’r llys, wedi’i gwneud yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi’

Adran Siawnsri’r Uchel Lys
Rolls Building
7 Rolls Building
Fetter Lane
Llundain
EC4A 1NL

Adran Deulu’r Uchel Lys
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL

Dewch o hyd i’ch Cofrestrfa Dosbarth Uchel Lys lleol.

Ar ôl i chi wneud cais, bydd angen i chi hysbysebu eich hawliad mewn papur newydd. Bydd yr Uchel Lys yn gofyn i chi fynd i wrandawiad.