Trosolwg

Gallwch wneud cais i fod yn warcheidwad a rheoli cyllid neu eiddo rhywun sydd:

  • ar goll
  • mewn carchar dramor a ddim yn gallu cyfathrebu
  • wedi cael eu dal yn wystl neu eu herwgipio

Rhaid i’r unigolyn fod ar goll o’u cartref a’u gweithgareddau arferol.

Rhaid i un o’r canlynol fod yn berthnasol hefyd:

  • nid ydych yn gwybod ble mae’r unigolyn
  • ni all yr unigolyn gysylltu â chi i roi gwybod beth yw eu penderfyniadau

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)

Rhaid i chi wneud cais i’r Uchel Lys am orchymyn gwarcheidiaeth.

Cewch gyflwyno cais pan fydd yr unigolyn wedi bod ar goll am y 90 diwrnod blaenorol. Cewch wneud cais yn gynharach os yw’n fater brys, er enghraifft, os yw tŷ yr unigolyn yn cael ei adfeddiannu.

Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn eich goruchwylio tra byddwch yn gweithredu fel gwarcheidwad. Bydd angen i chi gadw cofnodion o’r gweithgareddau a wnewch a’r penderfyniadau a wnewch.

Rhaid i chi anfon adroddiadau at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus pan fyddant yn gofyn amdanynt. Byddant yn rhoi gwybod i chi pan fydd yn amser i chi anfon eich adroddiad.

Efallai y bydd unigolyn o Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ymweld â chi.